Storm Barra: Difrod i Bromenâd Aberystwyth
Mae difrod go iawn i bromenâd Aberystwyth wrth i wyntoedd cryfion Storm Barra barhau ddydd Mercher.
Wedi i filiynau cael eu gwario ar atgyweirio'r promenâd yn dilyn difrod yn 2014, mae'r prom yn dioddef o'r newydd yn sgil Storm Barra.
Mae difrod i wal sydd yn amddiffyn y prom rhag y môr bellach wedi disgyn, yn ogystal â lloches poblogaidd.
Gyda thonnau ffyrnig yn parhau, bydd angen arian a chymorth i'w atgyweirio unwaith eto wedi'r storm.
Mae Storm Barra wedi achosi i "gannoedd" golli eu cyflenwad trydan ar draws gogledd Cymru, ac achosi trafferthion teithio i eraill.
Mae rhybudd melyn am wynt yn parhau mewn grym nes 18:00 nos Fercher ar gyfer rhannau helaeth o'r gorllewin a'r de.