Dau o Gymru i rwyfo 3,000 milltir i'r Caribî

Mae Jessica Mullins o Benarth a Joe Lewis o Aberystwyth ymhlith tîm o bedwar sy'n cymryd rhan mewn her rwyfo 3,000 milltir ar draws cefnfor yr Iwerydd.

Byddan nhw'n gadael La Gomera yn y Canaries ddydd Sul, ynghyd â Jessica Goddard a Lauren Hunt.

Gyda'i gilydd byddan nhw'n rhwyfo am Antigua yn y Caribî heb gymorth am 20 awr y dydd.

Bydd yn rhaid iddyn nhw ddelio â thywydd eithafol, amddifadedd cwsg ac unigedd, gyda disgwyl i'r siwrne gymryd o leiaf 40 diwrnod.

Dywedodd Joe mai'r flaenoriaeth, yn hytrach na thorri unrhyw record, ydy "aros fel ffrindiau" a "chroesi'n saff".