Omicron: Rhaid 'ystyried yn ofalus cyn cymysgu'
Mae'n bwysig fod pobl yn deall bod amrywiolyn Omicron yn "ddifrifol tu hwnt" wrth benderfynu a ydyn nhw am gymdeithasu.
"Os bydd 100 o bobl mewn ystafell ac un ohonyn nhw gyda'r amrywiolyn Omicron, gall 70 ohonyn nhw ddal yr amrywiolyn yma," dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru ddydd Sul.
Ond dywedodd Eluned Morgan nad yw'r llywodraeth yn gofyn i bobl ganslo'u partïon Nadolig o ystyried mai 15 achos o Omicron sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru hyd yma.
Yn hytrach maen nhw'n gofyn i bobl "fod yn ofalus," ac yn dweud bod yn rhaid i bobl "ystyried cyn cymysgu ag eraill".
Fe ddylai pobl gymryd profion llif unffordd cyn cwrdd ag eraill, meddai Ms Morgan.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro annog pobl i beidio mynd i bartïon Nadolig ddydd Sadwrn yn sgil Omicron a phwysau cynyddol ar y gwasanaeth iechyd.