'Gweithio drwy'r broses cyn gwneud addewidion' ar frechu
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud na fydd targed y llywodraeth o gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn yn cael ei symud yn nes am y tro.
Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson nos Sul y byddai pawb yn Lloegr yn cael cynnig trydydd brechiad erbyn diwedd Rhagfyr - mis ynghynt na'r targed gwreiddiol - yn sgil pryderon am amrywiolyn Omicron.
Ond dywedodd Eluned Morgan ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru mai diwedd Ionawr yw'r targed o hyd yng Nghymru, ond eu bod yn asesu "a ydyn ni yn gallu cyflymu'r broses".
"Y gwahaniaeth rhyngo' ni a Lloegr yw bod ni ddim yn gwneud addewidion tan ein bod ni yn hollol siŵr ein bod ni yn gallu cadw atyn nhw," meddai.