'Nadolig yn Llundain, nid Cymru, ar ôl dal Covid'
Mae telynores o Gaerdydd sy'n byw yn Llundain wedi disgrifio'r tristwch o orfod hunan-ynysu yn Llundain wedi prawf Covid-19 positif yn hytrach na dod adref ar gyfer y Nadolig.
Bu'n rhaid i Manon Browning a'i ffrindiau, sy'n byw dan yr un to, gael prawf PCR nos Iau wedi i un ohonyn nhw ddechrau teimlo'n sâl.
Cafodd pob un cadarnhad nos Wener eu bod wedi cael eu heintio, ond dydyn nhw ddim yn gwybod os ydyn nhw wedi dal yr amrywiolyn Omicron.
Mae ystadegau wedi awgrymu taw Omicron sydd i gyfri am hyd at dri chwarter yr achosion newydd o Covid yn Llundain ar hyn o bryd
Mae'r awdurdodau yn Llundain wedi datgan eu bod yn delio gyda digwyddiad ar raddfa fawr yn sgil y cynnydd yn y ddinas.
Mae'r datganiad, medd y maer, Sadiq Khan, yn amlygu "pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa", gan ychwanegu bod lefelau heintiadau'r ddinas yn destun pryder mawr.
Dywed Mared fod pobl y ddinas yn ymddangos "yn fwy gofalus" ers anerchiad y Prif Weinidog Boris Johnson nos Sul, a bod ciwiau hir o bobl yn aros am frechiadau atgyfnerthu.
"Ti'n gallu bod mor ofalus â ti isie bod," meddai, "ond ma' fe jest yn teimlo bod e yn bobman a bo' ti ddim rili yn gallu dianc ohono fe."
Mae yna dristwch na allai fod yng Nghymru i ddathlu gyda'i hanwyliaid, ond mae Mared a'i ffrindiau am geisio gwneud y gorau o'r sefyllfa.
"Ma'r ffrindia' dwi'n byw 'da, ma' nhw dal yma hefyd... ni'n aros fan hyn yn cadw cwmni i'n gilydd dros y Dolig a gobeithio dal gallu neud rhywbeth neis ar Ddydd Dolig."