'Nes i golli dros £800,000 yn gamblo ar-lein'

Mae doctor o Gaerdydd a dwyllodd y Gwasanaeth Iechyd wedi siarad am y profiad a "ddifethodd ei fywyd".

Fis Mawrth fe gyfaddefodd Dr Aled Meirion Jones ei fod wedi twyllo'r Gwasanaeth Iechyd o bron i £68,000.

Yn ôl Aled, fe gollodd mwy na £800,000 oherwydd ei brofiad gyda gamblo.

Ond dywedodd wrth Newyddion S4C mai'r perthnasau gollodd yn sgil y gamblo yw ei ofid mwyaf.