Adroddiad am amodau staff uned Hergest 'yn un teg'
Mae arolwg i uned iechyd meddwl yn Ysbyty Gwynedd Bangor wedi codi pryderon bod rhai staff wedi bod yn gweithio gormod o oriau a hynny heb egwyl na seibiant i gael cinio.
Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn nodi pryderon ynghylch diffyg mesurau i atal lledaeniad Covid-19 yn Uned Hergest, ac yn dweud bod angen gwella cyfathrebu rhwng rheolwyr a staff sy'n gweithio ar y ward.
Ym mis Tachwedd eleni fe gafodd adroddiad damniol hanesyddol o 2015 ei gyhoeddi i fethiannau yn yr uned, sy'n cael ei redeg gan fwrdd iechyd y gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyma ymateb Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y bwrdd, Theresa Owen.