Archesgob Tutu: 'Dyn arbennig ac arloesol'

Mae nifer o Gymry ymhlith cannoedd sydd wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r Archesgob Desmond Tutu sydd wedi marw yn 90 oed.

Ymwelodd â Chymru ar sawl achlysur gan gwrdd â mudiadau oedd wedi magu cysylltiadau ag Affrica dros y blynyddoedd.

Yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel, mae e'n cael ei gofio yn bennaf am ei ran allweddol yn yr ymgyrch i ddod ag apartheid i ben yn Ne Affrica.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn - Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ei fod yn ddyn cwbl arbennig a arloesol.