'Fydd dathliadau nos Galan ddim r'un fath eleni'

Mae perchennog tafarn yn Sir Ddinbych yn dweud y bydd dathliadau Nos Galan eleni'n wahanol i'r arfer yn sgil y cyfyngiadau i atal lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Mae hi'n noson brysur iawn fel arfer yn nhafarn y Golden Lion, Llandyrnog ond mae Merfyn Parry yn disgwyl iddi fod yn dawelach nos Wener.

Un rheswm dros hynny, mae'n awgrymu yw bod "rhywun ymhob teulu wrach efo Covid" sy'n golygu bod pobl "bach mwy ofnus" ynghylch mynd allan i gymdeithasu.

Ond mae'r ffaith bod rheolau llai llym mewn grym yn Lloegr hefyd yn golygu bod rhai'n bwriadu dathlu dechrau'r flwyddyn newydd dros y ffin.