'Angen mwy o falans ar gynghorau lleol Cymru'

Mae'n flwyddyn etholiad eleni - bydd etholiadau cyngor yn cael eu cynnal yng Nghymru fis Mai.

Ac mae yna ymgyrch i annog rhagor o fenywod, pobl ifanc ac unigolion o gefndiroedd ethnig gwahanol i ymgeisio i fod yn gynghorwyr.

Mae'r swydd yn gallu bod yn un hyblyg iawn, medd arweinydd yr ymgyrch, y Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys.

Ond mae'n bwysig, meddai, bod amrywiaeth o bobl yn rhan o benderfyniadau'r awdurdodau lleol ar faterion o bwys fel addysg a gofal cartref.

Gyda rhai cynghorwyr lleol yn cynrychioli eu wardiau am gyfnodau maith, gofynnwyd iddi: a oes angen i'r to hŷn ystyried ymddeol er mwyn rhoi cyfle i eraill wasanaethu eu cymunedau?