Heriau'n wynebu Cadeirydd newydd Cyngor y Sioe

Nicola Davies yw'r fenyw gyntaf i gael ei hethol yn gadeirydd Cyngor Cymdeithas Sioe Amaethyddol Cymru.

Ms Davies yw prif sylwebydd y Sioe ac mae hi wedi bod yn is-gadeirydd y cyngor ers tair blynedd.

Mae'n dweud bod ei phenodiad yn "gyfle i ddangos cymaint yw rôl menyw yng nghefn gwlad".

Dywedodd ei bod yn wynebu heriau a'i bod am geisio mynd i'r afael ag effaith y pandemig ar y gymdeithas wedi i'r Sioe Fawr gael ei chanslo yn 2020 a 2021.

Rhybuddiodd cadeirydd y bwrdd yn 2020 y gallai gymryd pum mlynedd i ddygymod â'r golled ariannol o ganslo'r Sioe.