Barn pobl Dinbych am y cyfyngiadau Covid presennol
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi dweud fod pobl "yn dechrau blino" gyda gwahanol reolau Covid-19.
Yn ôl Dr Simon Williams, sy'n ddarlithydd seicoleg, mae "diffyg rheolau cyson" ar draws y DU yn "fethiant".
Daw hyn ar ôl i Mark Drakeford gyhuddo Boris Johnson o "beidio gweithredu" i "warchod pobl yn Lloegr" rhag y coronafeirws.
Yn ôl Eifion Howatson, Perchennog Caffi The Copper Pot yn Ninbych, nid yw'r cyfyngiadau presennol wedi rhwystro pobl rhag dod allan.
Dyma'i farn ef a rhai o'i gwsmeriaid ar y sefyllfa.