Parti Downing Street 'wir yn brifo' wedi marwolaeth tad
Mae dynes a gollodd ei thad wythnosau cyn parti yn Rhif 10 Downing Street wedi dweud bod y digwyddiad "wir yn brifo".
Mae Prif Weinidog y DU yn wynebu galwadau i ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod hyd at 100 o bobl wedi'u gwahodd i barti yng ngardd Downing Street yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Nid yw Boris Johnson wedi ei weld yn gyhoeddus ers i'r honiadau ddod i'r amlwg.
Bu farw tad Emma Harris o Lanilltud Faerdref o ganlyniad i Covid-19, a dywedodd nad oedd hi a'i theulu wedi gallu galaru'n iawn, oherwydd y cyfyngiadau ar y pryd.
Ar Dros Frecwast, dywedodd ei bod yn "gyfnod mor unig" i'w mam a'i brawd, a bod gweld ei brawd yn eistedd ar ben ei hun ar ddiwrnod yr angladd yn "dorcalonnus".