Setliad y BBC yn 'ymosodiad ar ddarlledu cyhoeddus'

Mae rhewi ffi drwydded y BBC yn "ymosodiad ar ddarlledu cyhoeddus", ac yn "ergyd drom iawn" i ddarlledu Cymraeg, meddai cyn-weinidog.

Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai ffi'r drwydded yn cael ei rhewi am ddwy flynedd - sy'n golygu toriad mewn termau real i'r BBC.

Dywedodd cyn-weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru, Alun Ffred Jones, bod 'na berygl "gwirioneddol" i ddarlledu Cymraeg yn sgil y cyhoeddiad.