Rhoi gwaed: 'Ugain munud i safio bywydau'

Mae teulu bachgen bach fu'n dibynnu ar waed newydd i'w gadw'n fyw fel babi nawr yn galw ar fwy o bobl i roi gwaed.

Cafodd Taliesin ofal arbennig am bum mis pan yn fabi, ac roedd angen gwaed newydd arno'n gyson.

"O'dd sepsis 'da Taliesin," medd ei dad, Rhys Howells wrth BBC Cymru.

"O'dd e 'di colli bach o waed, ac o'dd pobl jyst yn dod lan o'r blood bank, jyst yn dod â pecyn ar ôl pecyn.

"Dim ond pedwar awr o'n nhw'n lasto, so ch'mod mewn un nos o'dd e 'di mynd trwddo pymtheg pecyn."

"Heb y gwaed, even 'da y medcines a'r miracles ma'r NHS yn gallu 'neud, bydde Taliesin ddim 'ma heddi."

Y peth cyntaf wnaeth Mr Howells wedi i'w fab gael ei ryddhau o'r ysbyty oedd mynd i roi gwaed.

Mae Taliesin bron yn ddwy nawr, ac yn fachgen hapus iawn.

Ond wedi i nifer y bobl sydd yn rhoi gwaed gwympo 13% yn sgil y pandemig, mae ei deulu'n annog mwy o bobl i roi gwaed.

"Chi'n troi lan, ugain munud yw e, a chi'n safio bywydau. Mae'n rhywbeth hawdd i ddweud, ond mae gyda ni first hand experience nawr."