Caerdydd wedi colli gwerth 43 wythnos o fusnes

Mae prif strydoedd siopa Cymru wedi colli gwerth 22 wythnos o werthiant oherwydd y pandemig, yn ôl adroddiad newydd.

Mae ymchwil gan Centre for Cities yn dangos mai canol Caerdydd gafodd ei daro waethaf drwy Gymru, gan golli gwerth 43 wythnos o werthiant rhwng y cyfnod clo cyntaf a thon Omicron.

Yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, does "dim syndod" yn yr adroddiad gan fod dinasoedd fel Caerdydd, oedd yn ffynnu cyn y pandemig, wedi cael sawl ergyd.

Ond dywedodd bod Caerdydd "mewn sefyllfa gwell i fownsio yn ôl" wrth i ymwelwyr ddychwelyd.

Ar Dros Frecwast, esboniodd ei fod am weld system o drethu busnesau sy'n galluogi i gwmnïau ffynnu "ble bynnag ydych chi".