Arholiadau: Beth ydy barn y disgyblion?
Bydd ysgolion yng Nghymru yn cael rhyddid i benderfynu gyda'u cynghorau lleol pa fesurau Covid fydd mewn grym ar ôl hanner tymor mis Chwefror.
O dan gynlluniau newydd, bydd gofyn i ysgolion ddychwelyd i'w hamserlen arferol ar ôl hanner tymor a'r bwriad yw cynnal arholiadau hefyd.
Ond beth ydy barn rhai o'r disgyblion am hynny?
Dyma oedd gan ddisgyblion Ysgol Bro Edern, Caerdydd i'w ddweud am y sefyllfa.