Cymry'n cwblhau taith rwyfo 3,000 milltir dros yr Iwerydd

Mae criw o Gymry wedi cwblhau eu taith rhwyfo ar draws yr Iwerydd - 3,000 o filltiroedd o La Gomera yn Ynysoedd y Caneri i Antigua yn y Caribî.

Fe gymerodd Jessica Mullins, Joe Lewis, Jessica Goddard a Lauren Hunt 42 diwrnod, pedair awr a 54 o funudau i gwblhau'r daith.

Fe gafodd BBC Cymru ymateb Lewis, sydd o Aberystwyth, ar y llinell derfyn.