'Dyw HIV ddim yn perchnogi fi'
Dyw'r stigma ynghylch HIV heb wella mewn 30 mlynedd, yn ôl un sy'n byw â'r haint.
Yn 40 oed, mae Mark Lewis o Benygroes ger Rhydaman wedi cyhoeddi ar Twitter ei fod yn byw gyda HIV.
Fe gymerodd bedair blynedd ers diagnosis Mark Lewis i ddweud wrth ei rieni.
Bu'n rhannu ei stori mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C.