Cyffro gallu mynd yn ôl i weithio mewn clybiau nos
Mae clybiau nos yn cael ailagor yng Nghymru o ddydd Gwener wrth i gyfyngiadau a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr mewn ymateb i'r amrywiolyn Omicron ddod i ben.
Dyma un rhan o'r broses a ddechreuodd bythefnos yn ôl o symud o gyfyngiadau Lefel Rhybudd 2 i lefel sero, dolen allanol.
Bydd angen i bobl ddangos Pas Covid er mwyn mynd i'r clybiau, ond ni fydd yn rhaid iddyn nhw wisgo mygydau.
Dywedodd y DJ Gareth Potter wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn "awchu" i gael dychwelyd i'w waith.