'Mae'n gyfnod anodd i fod yn feddyg'

Mae arolwg newydd gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn awgrymu fod 63% o staff y GIG yng Nghymru yn teimlo nad ydyn nhw wedi gallu ymdopi dros yr wythnosau diwethaf.

Dywed nifer o staff y Gwasanaeth Iechyd eu bod yn wynebu straen aruthrol yn sgil ton Omicron a phwysau'r gaeaf, a bod y cyfan yn cael effaith niweidiol ar eu gwaith a'u bywydau personol.

Mae'r coleg yn galw am fuddsoddiad sylweddol i gefnogi staff presennol a recriwtio staff ychwanegol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo "i wella mynediad staff at gymorth a bod mwy o lefydd hyfforddi i staff iechyd nag erioed o'r blaen".

Dywed Dr Glesni Davies, sy'n gofrestrydd arbenigol yng ngofal yr henoed yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, bod y cyfan yn teimlo’n ddiddiwedd a’i bod yn gyfnod anodd i fod yn feddyg.