Costau byw: 'O'n i'n meddwl bod bil mis yn un tri mis'

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â chynnydd mewn costau byw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd taliad y cynllun budd-dal ynni yn dyblu.

Bydd pob person cymwys yn cael £200.

Yn ôl y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol, Jane Hutt, mae hyd at 350,000 o bobl yn gallu gwneud cais. Hyd yma, mae 106,000 o daliadau wedi eu gwneud.

Mae dwy fam o Wynedd - Erica o Gaernarfon a Sulwen o Lithfaen - yn trafod sut maen nhw'n ymdopi â chostau byw sy'n codi.