Blwyddyn Newydd Chineaidd wahanol eleni oherwydd Covid
Wrth i bobl ar draws y byd ddathlu'r Flwyddyn Newydd Chineaidd ddydd Mawrth, bydd y dathlu i lawer o bobl yng Nghymru dal yn wahanol i'r arfer.
I rai, bydd rhaid aros blwyddyn arall am y dathliadau mawr traddodiadol, tra bo'r pandemig yn parhau i fod yn gefndir i weithgareddau.
Bydd eraill yn nodi'r achlysur am y tro cyntaf heb eu teulu estynedig arferol, ar ôl gwneud y penderfyniad dewr - ac anodd - i adael eu mamwlad a dod i Brydain yn ystod y misoedd diwethaf.
Dyma sut bydd Olivia a'i theulu yn dathlu eleni.