Galw am glinigau arbenigol i ddelio â Covid hir

Mae Sian Griffiths yn nofio o leiaf dair gwaith yr wythnos naill ai yn y môr ger ei chartref ar Ynys Môn, neu yn Llyn Padarn islaw mynyddoedd dramatig Eryri.

Ond nid yr olygfa sy'n denu Sian - ond effeithiau'r dŵr a'r oerfel, sydd meddai'n helpu clirio, am gyfnod o leiaf, rhai o effeithiau hirdymor Covid.

Roedd Sian yn gweithio fel ffisiotherapydd pan gafodd hi ei heintio â Covid ym mis Mai 2020.