Ysgol gynradd Gymraeg Penfro: 'Cyfle i fwrw ati'

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro yn ystyried cais ddydd Mawrth i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd yn nhref Penfro.

Y bwriad yw datblygu llecyn o dir 3.3 hectar o faint wrth ymyl Ysgol Harri Tudur, ger fferm Glanymôr, ar gyfer yr ysgol newydd.

Fe fyddai lle i 210 o blant rhwng 5 ac 11 oed yn yr ysgol, ynghyd â lle i 30 yn y meithrin a chylch meithrin ar gyfer plant rhwng 0-3 oed.

Mae swyddogion cynllunio yn argymell rhoi sêl bendith i'r cais.

Y Cynghorydd Cris Tomos, sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Sir Penfro, fu'n trafod y syniad ar Dros Frecwast fore Mawrth.