Enwebiad Oscar i ffilm fer animeiddwyr o Gymru

Mae dau animeiddiwr o Gaerdydd wedi cael eu henwebu am Oscar am eu ffilm fer, Affairs of the Art.

Wedi ei chyfarwyddo gan Joanna Quinn, a'i hysgrifennu a'i chynhyrchu gan Les Mills, mae'r ffilm eisoes wedi ennill amryw o wobrau ar draws y byd.

Mae'r ffilm fer yn dilyn Beryl, sy'n 59 oed, ac sydd wedi bod yn gweithio mewn ffatri ar hyd ei hoes, wrth i obsesiwn â chelf gymryd drosodd ei bywyd.

Mae lleisiau cyfarwydd y byd teledu Cymraeg i'w clywed ynddi hefyd - gan gynnwys Menna Trussler a Mali Ann Rees.