Gwersi am ddim i helpu cyrraedd targed miliwn o siaradwyr

Bydd gwersi Cymraeg ar gael am ddim i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed o fis Medi ymlaen wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Bydd yna wersi am ddim hefyd ar gael i athrawon ac eraill ym maes addysg.

Bydd modd i ddysgwyr 18-25 ddod o hyd i gwrs addas wrth gofrestru yn y Ganolfan Dysgu Genedlaethol ac fe fydd adnoddau ar-lein yn cael eu treialu ar gyfer pobl ifanc 16-18 sy'n yr ysgol, coleg neu ar gynllun prentisiaeth.

Dywed Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Genedlaethol bod y ganolfan yn edrych ymlaen at yr her o ddatblygu sgiliau iaith pawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.