'Dal petha'n ôl - dyna'r cyfan ydy'r ymchwiliad'
Ar drothwy ymchwiliad cyhoeddus newydd i achos yr is-bostfeistri a gafodd eu carcharu ar gam dywed Noel Thomas o Gaerwen ei fod yn bryderus am werth a chost y broses.
Mae hefyd wedi galw ar yr awdurdodau i ddod â'r mater i ben yn fuan.
Ddydd Llun bydd Mr Thomas, sy'n 75 oed erbyn hyn, ymhlith y bobl gyntaf i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad.
Fe gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 am gadw cyfrifon ffug ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach mai nam ar system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon, oedd ar fai.
Yn 2021 cafodd yr euogfarn ei ddileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol.