Trawiad ar y galon: Rhaid i ferched 'wrando ar eu cyrff'
Cafodd Vera Price, o Gwm-y-glo ger Llanrug trawiad ar y galon am y tro cyntaf ym mis Medi 2021.
Sylweddolodd ei ffrind ei bod hi'n ymddangos i fod allan o wynt wrth gerdded, er iddi fod yn fenyw ffit.
Yn ôl elusen, mae menywod sydd â risg o ddioddef afiechyd y galon yn wynebu anfanteision oherwydd rhagfarn diarwybod ac anghydraddoldebau yn y system gofal iechyd.