Iechyd meddwl: Dringo Kilimanjaro i wneud gwahaniaeth
Mae'n bedair blynedd bellach ers i Alastair McDonald farw drwy hunanladdiad.
Dros yr haf, bydd Meilyr Williams ac Aled Hughes, dau bêl-droediwr ifanc o'r gogledd, yn dringo Kilimanjaro i godi arian i'r elusen iechyd meddwl Mind.
Yn ôl Meilyr Williams, mae'r her yn gyfle perffaith i ledaenu'r neges "bod angen siarad am y petha' 'ma".
"'Da ni'n codi arian, sydd yn grêt, ond mae mwy amdan codi ymwybyddiaeth, a da ni dal yn mynd i cario 'mlaen yn 'neud hwnna lot ar ôl yr her," meddai Aled Hughes.