Hosbis Dewi Sant: 'Fyswn ni ddim wedi gallu gofyn am le gwell'
Mae hosbis yn y gogledd wedi cyhuddo'r bwrdd iechyd lleol o gymryd mantais ac ecsbloetio eu gwasanaethau yn sgil ffrae dros ariannu.
Yn ôl Hosbis Dewi Sant, mae yna "fygythiad clir" i'r gofal y mae modd ei gynnig oni bai fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cytuno i drafod model ariannu newydd.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad gwerth £2.2m i hosbisau yng Nghymru ym mis Ionawr, ond mae yna bryderon nad ydy hynny'n ddigon i achub a chynnal y ddarpariaeth.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am yr oedi o ganlyniad i Covid, gan ychwanegu eu bod nhw wedi cysylltu gyda'r hosbis i drafod taliadau.
Mae hi bron yn union flwyddyn ers i fam y telynor Dylan Cernyw, Beryl Roberts, farw o ganser. Yn y dyddiau cyn iddi farw, fe dderbyniodd ofal "anhygoel" yn Hosbis Dewi Sant, meddai ei theulu.
Mae Dylan a'i deulu yn dweud fod y gofal a gafodd eu mam wedi bod yn gynhaliaeth ac yn achubiaeth, ond mae'n dweud dim ond "hyn a hyn" o godi pres mae modd i'r cyhoedd ei wneud a bod angen buddsoddiad teg.