Fideo eiliadau cyn gwrthdrawiad angheuol

Mae dyn wedi ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth ffrind agos drwy yrru'n beryglus mewn damwain yn Sir Gaerfyrddin.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Iau fod Meirion Emerson Roberts wedi bod yn yfed alcohol cyn gyrru ar gyflymder. Bu farw teithiwr yn ei gar, Lewis Morgan, yn y fan a'r lle.

Clywodd y llys fod Roberts, 26 ac o Heol Las, Rhydaman, yn gyrru ei Vauxhall Corsa gwyn ar hyd Heol Penygroes ym mhentref Blaenau, Sir Gâr ar noson 4 Rhagfyr, 2020.

Tua 20:45 collodd reolaeth ar y cerbyd a bu mewn gwrthdrawiad.

Gadawodd y car ochr chwith y ffordd a gwyro i'r ochr arall gan daro polyn telegraff yn gyntaf ac yna wal cyn dod i stop tra ar ei do.

Nawr mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi rhyddhau fideo a dynnwyd yn y cerbyd eiliadau cyn y gwrthdrawiad.