Cynllun fisa yn achosi pryder i deuluoedd
Mae dyn o Gorwen, sydd a'i wraig o Wcráin, yn dweud fod y system fisa bresennol yn hynod o ddryslyd wrth geisio helpu ffoaduriaid.
Wrth i fyddinoedd Rwsia barhau i ymosod mae yna amcangyfrif fod 660,000 o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin.
Roedd Dylan Ellis Jones wedi gobeithio dod â chwaer ei wraig, Gulzara, yn ôl i Gymru ond oherwydd yr ansicrwydd wrth geisio am fisa mae hi wedi gorfod mynd i'r Almaen.