Athrawes yn teithio adref o Rwsia i Abergele
Mae athrawes sydd wedi dychwelyd adref i Abergele o Rwsia yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin yn dweud ei bod yn poeni am ei ffrindiau ym Moscow.
Teithiodd Tanis Pragnell yn ôl i Gymru dros y penwythnos ar ôl treulio dros dair blynedd yn gweithio mewn ysgol ar gyrion y ddinas.
Nawr, mae'n dweud na fydd hi'n dychwelyd tra bod ymosodiad Rwsia ar Wcráin yn parhau - gan ychwanegu na fyddai ei theulu na'i ffrindiau yng Nghymru yn caniatáu iddi wneud.
Roedd yna bryder cynyddol am ryfel wrth i filwyr Rwsieg ymgasglu ger ffin Wcráin am fisoedd cyn yr ymosodiad.
Ond yn ôl Ms Pragnell, doedd dim awgrym bod hyn ar droed yn Rwsia.
"Peth cynta' glywish i oedd ffrindiau, teulu'n cysylltu i ddweud - ti'n dod adre cyn bo hir? Wel, yndw dwi'n dod adre ar gyfer hanner tymor, peth rhyfedd i ofyn," mae hi'n cofio dweud.
Mae hi'n falch i fod adref yn Abergele, ond mae ei ffrindiau yn Rwsia'n pwyso'n drwm ar ei meddwl.
"Mae'r bobl 'nes i 'neud ffrindiau efo, pobl Rwsieg, 'dyn nhw ddim ishe hyn, a dyna sy'n dorcalonnus.
"Dwi'n meddwl, ma' nhw just yn embarrassed, ma' nhw'n meddwl bod o'n beth difrifol, a ddim yn disgwyl 'sa hyn yn digwydd."