Steffan Warren: 'Anodd cysylltu â'r teulu yn Wcráin'

Union wythnos ers i Rwsia ymosod ar Wcráin mae Maer dinas Kherson, porthladd pwysig, yn dweud ei bod bellach ym meddiant lluoedd yr Arlywydd Putin.

Dyma'r ddinas fawr gyntaf i gael ei chipio gan filwyr Rwsia.

Ddydd Iau mae gweinidogion yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod i drafod ffyrdd o warchod ffoaduriaid rhag y rhyfel.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae dros filiwn o bobl bellach wedi ffoi o Wcráin.

Mae'r llys troseddau rhyngwladol bellach yn cynnal ymchwiliad i ystyried a yw Rwsia yn cyflawni troseddau rhyfel.

Mae Steffan Warren o Gricieth a'i deulu newydd ddychwelyd i Gymru wedi cyfnod o fyw yn Rwsia.

Mae gan ei wraig deulu ym Moscow a nain a modryb yn byw yn Wcráin.

Dywedodd ar Dros Frecwast bod perthnasau yn Wcráin yn ddiogel "y tro dwytha' i ni glywed", ond ei bod yn anodd cysylltu gyda nhw.