Cofio'r cyflwynydd poblogaidd Dai Jones, Llanilar

Yn 78 oed bu farw'r ffermwr, y darlledwr a'r canwr amryddawn Dai Jones.

Bu'n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar radio a theledu ond fe fydd yn cael ei gofio'n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Wrth ei ddisgrifio fel un o ddarlledwyr mwyaf talentog Cymru, fe ddywedodd S4C y bydd y byd darlledu a chefn gwlad yn dlotach o lawer hebddo.

Craig Duggan fu'n edrych 'nôl ar fywyd a gyrfa Dai Jones, Llanilar, ar raglen Newyddion S4C.