'Angen i Gymru fedru ymateb i amrywiolion Covid'
Dywed Gweinidog Iechyd Cymru fod y llywodraeth yn awyddus i Gymru fedru ymateb i amrywiolion pellach o'r coronafeirws.
"'Dw i'n meddwl ein bod ni'n dod allan o hwn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n dod allan," meddai Eluned Morgan ddydd Sul.
"Beth 'yn ni'n poeni am yn fwy na dim yw'r posibilrwydd y gwelwn ni variant newydd yn y dyfodol, ac y'n ni ishe gweld hwnnw'n dod."
"Dyna'r gwahaniaeth rhyngddon ni a Llywodraeth y DU - ein bod ni ishe cadw digon o system mewn lle fel ein bod ni'n gallu bownsio'n ôl pe byddwn ni'n gweld hynny'n digwydd."
Bydd yr holl ofynion cyfreithiol Covid yng Nghymru'n dod i ben ar 28 Mawrth.
Fe fydd y llywodraeth hefyd yn dechrau cyfyngu ar y rhaglen brofi yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Ms Morgan wrth raglen BBC Politics Wales fod Llywodraeth Cymru'n "amharod" i wneud hyn, ond y byddai'n "anodd iawn" i barhau i ariannu'r rhaglen bresennol yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu profion am ddim yn Lloegr.