Urdd: Aelwyd yn edrych ymlaen at ei heisteddfod gyntaf
Ni fydd rhagbrofion yn Eisteddfod yr Urdd eleni, wrth i'r mudiad ieuenctid gyhoeddi newidiadau ar gyfer yr ŵyl yn Sir Ddinbych.
Yn hytrach, bydd pob un o'r cystadleuwyr sy'n cyrraedd yno yn cael y cyfle i berfformio ar un o dri llwyfan ar y maes - yn hytrach na'r un prif bafiliwn arferol.
Daeth y cyhoeddiad wrth i'r Urdd ddatgelu rhagor o drefniadau ar gyfer yr ŵyl, fydd yn cael ei chynnal rhwng 30 Mai a 4 Mehefin ar gyrion tref Dinbych.
Bydd mynediad am ddim ar gael i'r maes eleni, gyda 'Gŵyl Triban' hefyd yn cael ei chynnal fel aduniad i aelodau a chyn-aelodau.
Hon fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd gael ei chynnal mewn tair blynedd, wedi i'r digwyddiad gael ei ohirio ddwywaith oherwydd pandemig Covid.
Ym mhentref Llanrhaeadr, mae côr newydd Aelwyd Dyffryn Clwyd wedi bod yn ymarfer yn ddiwyd ar gyfer eu cystadleuaeth nhw, ac yn edrych ymlaen at groesawu'r ŵyl i'w hardal.