Rwsia yn 'galed iawn' ar brotestwyr yn cefnogi Wcráin
Fe ddysgodd Pavel Ioasad, sy'n wreiddiol o Rwsia, y Gymraeg ar liwt ei hun dros 20 mlynedd yn ôl.
Bellach mae'n byw yn yr Alban gyda'i deulu, ac yn ddarlithydd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin.
Mae'n adnabod rhai o'r protestwyr yn Rwsia wnaeth fentro wynebu 15 mlynedd o garchar am godi eu llais.
Cafodd cyfraith newydd ei chyflwyno yn Rwsia wythnos diwetha', efo'r nod o fynd i'r afael, meddai'r Kremlin, â "newyddion ffug" oedd yn cael ei rannu am fyddin Rwsia.