Parc Glasfryn yn cynnig llety a swyddi i ffoaduriaid Wcráin

Mae canolfan weithgareddau Parc Glasfryn ger Pwllheli yn awyddus i ddarparu llety mewn carafanau statig a chyflogaeth bosib i ffoaduriaid o Wcráin.

Mae'r atyniad, sydd ar agor drwy'r flwyddyn ac yn cynnwys go-cartio, bowlio a chyfleusterau tonfyrddio yn ogystal â chaffi ar y safle, yn chwilio am staff ychwanegol.

Dywed Sian Pritchard, o adran marchnata'r parc, fod Glasfryn yn awyddus i "dynnu'n pwysa' a helpu lle gallwn ni".

"Mae wir yn dorcalonnus gweld be sy'n mynd ymlaen yn Wcráin," meddai.

Mae'n "ddyddiau cynnar" yn ôl y perchennog Jonathan Williams-Ellis.

Ond mae'n obeithiol "y bydd Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn estyn allan i bobl fel ni yn y diwydiant twristiaeth".