'Esgusodion' profion gyrru i'r byddar 'ddim digon da'
Mae "esgusodion" yn cael eu rhoi'n aml am ddiffyg cyfieithwyr i bobl byddar sy'n sefyll profion gyrru, medd Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS).
Daw hyn wrth i ddyn byddar o Wynedd gyhuddo'r corff sy'n gofalu am brofion gyrru o'i drin yn wahanol oherwydd ei anabledd.
Yn ôl David Pool, o Nefyn, mae'r DVSA wedi methu â sicrhau cyfleoedd teg na chwaith archebu cyfieithydd ar y pryd ar sawl achlysur wrth iddo geisio sefyll ei brawf theori i yrru lorïau.
Dywed Ffion Môn Roberts o COS fod angen i agweddau pobl newid.
Dywed yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau Llywodraeth Prydain (DVSA) y bydd achos Mr Pool yn destun ymchwiliad brys.