Teulu'n aduno ar y ffin rhwng Wcráin a Slofacia
Mae cwpl o Drawsfynydd wedi llwyddo i aduno â'u teulu o Wcráin ar y ffin yn Slofacia ar ôl wythnosau o boeni amdanynt yn dilyn ymosodiad Rwsia.
Ar ôl gyrru i bentref Vysne Nemeck yn Slofacia ar y ffin gyda Wcráin, roedd rhaid i Gareth Roberts a'i wraig Nataliia ddisgwyl yn eiddgar ynghanol pentref sydd wedi troi, i bob pwrpas, yn wersyll i ffoaduriaid.
Yno i'w cwrdd oedd Angelina, merch Nataliia a llysferch Gareth Roberts, ei merch hithau, Albina sy'n 12 oed, a Giina y ci.
Yr her nesaf yw gadael Slofacia am Gymru, ac mae taith hir o'u blaenau, fel y clywodd Newyddion S4C.
Ond mae'r profiad yn chwerw felys. Bu'n rhaid gadael tad Albina, Vova ar ôl. Does dim hawl i ddynion rhwng 18 a 64 ffoi - rhaid aros i amddiffyn eu gwlad.