Ffermwyr o Gorwen yn cludo bwyd o Gymru i Wcráin

Dros y penwythnos fe wnaeth Llyr Jones groesi cyfandir o'i gantref yn Sir Conwy i Wcráin er mwyn dosbarthu rhoddion o Gymru.

Yn teithio dros nos mewn faniau a cherbydau 4x4, fe wnaeth Llyr a chwech o'i ffrindiau lwyddo i ddosbarthu gwerth miloedd o bunnau o fwyd a nwyddau meddygol ar gyfer y rhai sy'n dioddef oherwydd y rhyfel.

Dyma gofnod personol Llyr o'r daith.