'Rhaid gwella mynediad anwyliaid i asedau digidol'

22 mlwydd oed yn unig oedd Rowan Jones pan fu farw mewn damwain car ger Bangor.

Doedd Rowan a'i bartner, April, fel cwpl ifanc, ddim wedi paratoi am y fath amgylchiadau - a ddim wedi meddwl am ewyllys.

Ond yr hyn ddaeth yn drafferth annisgwyl i April Williams oedd cael mynediad i gyfrifon siopa ar-lein Rowan wedi iddo farw.

Yn ôl Elen Hughes sy'n gyfreithwraig yn ardal Pwllheli, mae "angen cysondeb" gyda pholisïau cwmnïau ar asedau digidol.