'Bydd effaith rhyfel Wcráin i'w gweld am flynyddoedd'

Parhau i dyrru i Wlad Pwyl mae ffoaduriaid o Wcráin.

Wrth iddo dreulio cyfnod ar y ffin dywed Gwyn Loader, gohebydd Newyddion S4C, mai'r hyn sy'n dorcalonnus yw gweld teuluoedd yn gorfod rhannu - wrth i famau a'u plant groesi a'r tadau aros ar ôl.

Dywed hefyd bod elusennau fel y Groes Goch yn rhybuddio y bydd effaith rhyfel Wcráin i'w gweld am flynyddoedd.