Newid Rheolau Covid: Ymateb Fforwm Gofal Cymru

Mae Mary Wimbury o Fforwm Gofal Cymru yn derbyn bod angen parhau i wisgo mygydau mewn cartrefi gofal er mwyn gwarchod pobl fregus.

Wrth i niferoedd achosion Covid-19 barhau i gynyddu, dywedodd mai diogelwch preswylwyr a staff yw'r flaenoriaeth.

Ond, ychwanegodd fod y Fforwm yn gobeithio gweld pwynt lle na fydd staff ac ymwelwyr yn gorfod gwisgo mwgwd.

Fe esboniodd ei bod hi'n anodd cynnal cyswllt gyda rhai preswylwyr pan yn gwisgo mwgwd wrth geisio darllen wynebau.