Confoi dyngarol i hebrwng pobl o Mariupol yn Wcráin
Mae ymdrechion newydd ar y gweill i hebrwng pobl o ddinas Mariupol yn Wcráin.
Mae degau o filoedd o bobl wedi cael eu dal yn ddinas wedi wythnosau o gyrchoedd bomio gan Rwsia.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Wcráin, Iryna Vereshchuk fod confoi o 45 o fysys ar eu ffordd i'r ddinas yn ne'r wlad.
Ychwanegodd bod Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch wedi cadarnhau fod Rwsia'n cytuno i agor coridor dyngarol i Mariupol gan ddechrau ddydd Gwener.
Mae Wyre Davies yn gohebu i'r BBC ger dinas Mariupol.