Rhyfel y Falklands: Atgofion dal yn fyw yn y cof
40 mlynedd ers dechrau Rhyfel y Falklands mae cyn-filwyr wedi bod yn rhannu eu profiadau â BBC Cymru o'r brwydro yn ne'r Iwerydd.
Ar 2 Ebrill 1982 fe ddaeth y newyddion bod rhai o filwyr Yr Ariannin wedi glanio ar Ynysoedd y Falklands.
Fe barhaodd y brwydro 74 diwrnod ar ôl i'r Ariannin feddiannu'r ynysoedd. Bu farw 649 o aelodau byddin Yr Ariannin a chafodd 255 o Brydain eu lladd.
Clive Aspden, Maldwyn Jones a William Haworth sy'n cofio.