'Hanfodol' i gomisiynwyr wneud ymdrech gyda'r Gymraeg
Mae'n hanfodol bod comisiynwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwneud ymdrech i siarad Cymraeg, medd Comisiynydd Plant Cymru.
Yn ôl yr Athro Sally Holland, dylai pobl mewn swyddi o'r fath "geisio dysgu'r iaith os dy'n nhw ddim yn ddwyieithog yn barod".
Ychwanegodd ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru ei bod yn bwysig fod pobl mewn swyddi blaenllaw yn "parchu'r ffaith fod y wlad yn ddwyieithog".
Dywedodd yr Athro Holland, sydd wedi dysgu'r iaith ei hun: "Dydw i ddim yn berffaith eto wrth gwrs, ond mae wedi bod yn bleser dysgu'r iaith a gallu gweithio gyda phlant ac oedolion yn eu hiaith gyntaf."