Wcráin: Taflegryn yn taro ambiwlans o Gymru
Mae meddyg o Ferthyr yn dweud ei fod yn drist ac yn ddig fod ambiwlans dyngarol gafodd ei anfon i Wcráin wedi ei ddifrodi gan daflegryn.
Yn ôl Dr Mateo Szmidt, sy'n gweithio yn Ysbyty Tywysog Charles, roedd yr ambiwlans wedi ei barcio y tu allan i ysbyty plant yn ninas Mykolaiv pan gafodd ei daro.
Dywed Dr Szmidt eu bod yn aros i glywed am faint y difrod.
"Fe wnaeth lot o bobl roi eu harian i helpu - de ni ddim yn gwybod pa mor ddrwg ydi'r difrod, rydym yn aros i glywed gan y bobl sydd yna.
"Rydych chi am iddo fod yna yn helpu pobl, nid i gael ei ddinistrio."
Fe lwyddodd ymgyrch GoFundMe, a lansiwyd gan Dr Szmidt a'i gyd-weithwyr, i godi £26,000 gan anfon dau ambiwlans i Wcráin.
"Cafodd yr ymosodiad ar yr ambiwlans ei gadarnhau gan elusen British Ukranian Aid a Maer Mykolaiv," meddai Dr Szmidt.